SL(5)204 -  Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae Rhan 5 o'r Ddeddf Economi Ddigidol 2017 ("y Ddeddf") yn caniatáu i bersonau penodol, a restrir yn yr Atodlenni i'r Ddeddf, rannu gwybodaeth at ddibenion penodol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlenni 4, 5 a 6 (personau penodedig at ddibenion darparu gwasanaethau cyhoeddus), Atodlen 7 (personau penodedig at ddibenion y darpariaethau dyled) ac Atodlen 8 (personau penodedig at ddibenion y darpariaethau twyll) i'r Ddeddf. Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu personau sy'n gyrff Cymreig (fel y'u diffinnir yn y Ddeddf) i'r Atodlenni hynny i'w galluogi i ddefnyddio'r pwerau ym Mhennod 1 (darparu gwasanaethau cyhoeddus), Pennod 3 (dyled sy'n ddyledus i'r sector cyhoeddus) a Phennod 4 ( twyll yn erbyn y sector cyhoeddus) o Ran 5 (Llywodraeth Ddigidol) y Ddeddf. Mae yna eisoes nifer o gyrff Seisnig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli wedi'u rhestru yn yr Atodlenni i'r Ddeddf. 

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Yn y dyfodol, bydd y Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff cyhoeddus Cymru a restrir yn yr Atodlenni i'r Ddeddf i rannu gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau (ee atal twyll a nodi a helpu pobl sydd mewn dyled i sawl asiantaeth gyhoeddus). Mae'r pwerau i rannu data yn yr amgylchiadau hyn yn ganiataol (nid yw'r cyrff a enwir yn yr Atodlenni i'r Ddeddf o dan rwymedigaeth i rannu data at unrhyw ddiben). Mae codau ymarfer yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU a fydd yn nodi sut mae unrhyw ddata i'w rannu a'r gweithdrefnau y bydd angen eu dilyn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i sefydliadau sy'n ymwneud â rhannu data barhau i fodloni gofynion deddfwriaeth diogelu data cyfredol ac yn y dyfodol.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Ebrill 2018